Dewis eich iaith
Cau

Iechyd : Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dyddiad yr Adroddiad

12/10/2022

Pwnc

Iechyd

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202202782

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cwynodd Ms X wrth y Bwrdd Iechyd am sylwadau gan seicolegydd a welodd yn ei chofnodion meddygol. Cwynodd wrth yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu darparu ymateb ffurfiol i’w chŵyn.

Nododd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi dweud wrth Ms X, er bod yr ymchwiliad i’r pryderon a godwyd wedi’i gwblhau, bod y mater wedi’i drosglwyddo i’r Tîm Cyfreithiol a Risg i’w ystyried cyn ei gyflwyno i’r achwynydd. Gwnaeth yr Ombwdsmon ymholiadau gyda’r Bwrdd Iechyd a derbyniodd yr eglurhad pam nad oedd ymateb ffurfiol wedi’i roi eto.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu’r ymateb ysgrifenedig ffurfiol i Ms X erbyn 14 Tachwedd 2022.

Yn ôl