Dewis eich iaith
Cau

Iechyd : Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dyddiad yr Adroddiad

25/11/2022

Pwnc

Iechyd

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202204999

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cwynodd Mrs L, er ei bod wedi gwneud cwyn ffurfiol am safon y gofal mamolaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Awst 2021, nid oedd byth wedi cael ymateb.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi dilyn ei weithdrefn gwyno ac nad oedd wedi diweddaru Mrs L am yr ymchwiliad. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ddiangen i Mrs L. Fodd bynnag penderfynwyd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs L, talu iawndal o £100 iddi, ac ymateb yn ffurfiol i’w phryderon o fewn 30 diwrnod gwaith ar ôl llythyrau penderfynu’r Ombwdsmon.

Yn ôl