Dewis eich iaith
Cau

Iechyd : Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dyddiad yr Adroddiad

21/04/2023

Pwnc

Iechyd

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202207374

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cwynodd Mrs A i’r Ombwdsmon ynghylch yr oedi o ran ymateb i gŵyn ffurfiol a anfonwyd at y Bwrdd Iechyd ym mis Mehefin 2022. Cwynodd Mrs A yn ffurfiol i’r Bwrdd Iechyd ynglŷn â gofal a thriniaeth ei diweddar fam tra oedd yn Ysbyty Cymunedol Rhuthun yn 2021.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod y Bwrdd Iechyd wedi cydnabod cwyn Mrs A, ond nad oedd wedi diweddaru Mrs A yn briodol pan ofynnwyd ac nad oedd wedi rhoi unrhyw syniad pryd y gellid disgwyl yr ymateb ffurfiol i’r gŵyn. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod ymateb y Bwrdd Iechyd yn hirach na’r amserlen resymol.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd â chais gan yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mrs A am yr oedi ac i ymateb yn llawn i gŵyn Mrs A, o fewn 20 diwrnod gwaith.

Yn ôl