Dewis eich iaith
Cau

Iechyd: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dyddiad yr Adroddiad

24/11/2023

Pwnc

Iechyd

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202306260

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cwynodd Mr A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymateb i’w gŵyn na rhoi diweddariadau iddo ers iddo wneud y gŵyn dros 4 mis yn ôl.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd eto wedi ymateb i’r achwynydd ac roedd wedi methu diweddaru Mr A yn briodol yn ystod ei ymchwiliad. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro am fethu diweddaru Mr A, cynnig iawndal o £50 a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 8 wythnos.

Yn ôl