Dewis eich iaith
Cau

Iechyd : Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Dyddiad yr Adroddiad

11/10/2022

Pwnc

Iechyd

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202104890

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn heb ei chadarnhau

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Cwynodd Mr X fod y Bwrdd Iechyd wedi achosi oedi wrth brosesu atgyfeiriad gan ei feddyg teulu i Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (“AWTTC”). Cwynodd hefyd fod oedi cyn iddo gael canlyniadau ei waith Beta II Transferrin.
Canfu’r ymchwiliad fod yr apwyntiad a drefnwyd gan y Bwrdd Iechyd gyda’r AWTTC yn dod o fewn y cyfnod aros o 30 wythnos a gynghorodd.
Canfu’r ymchwiliad ymhellach:
1) na chafodd biobrawf Beta II Transferrin ei drefnu gan y Bwrdd Iechyd;
2) nad oedd y labordy a ddarparodd ganlyniadau biobrawf Beta II Transferrin Mr X yn dod o dan gyfrifoldeb y Bwrdd Iechyd;
3) er gwaethaf hyn, aeth y Bwrdd Iechyd ar ôl y canlyniadau ac ymddiheuro i Mr X.
Nid oedd yr Ombwdsmon wedi cadarnhau’r cwynion. Gan na nodwyd unrhyw fethiannau, ni wnaeth yr Ombwdsmon unrhyw argymhellion ynghylch y gŵyn hon.

Yn ôl