29/07/2022
Iechyd
Datrys yn gynnar
202202410
Datrys yn gynnar
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Yn dilyn ei hymateb i’w chwyn, cwynodd Ms X nad oedd wedi cael ymateb pellach gan y Bwrdd Iechyd mewn perthynas â’i phryderon ychwanegol ynghylch y gofal a ddarparwyd i’w diweddar fam tra’r oedd yn yr ysbyty.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu ymateb i bryderon diweddaraf Miss X. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwblhau’r canlynol i setlo cwyn Mrs X erbyn 12 Awst 2022 yn lle bod yr Ombwdsmon yn ymchwilio iddi:
a) Ymddiheuro i Ms X am yr oedi cyn ymateb i bryderon ychwanegol Ms X
b) Darparu ymateb i’r cwyn.