Dewis eich iaith
Cau

Iechyd: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Dyddiad yr Adroddiad

14/12/2023

Pwnc

Iechyd

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202306999

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Cwynodd Mrs M nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymateb i’w chŵyn, a gyflwynwyd iddynt ym mis Mai 2023.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi bod yn darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon i Mrs M, nad oedd wedi cyhoeddi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs M. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mrs M gydag ymddiheuriad am yr oedi parhaus a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 5 wythnos.

Yn ôl