14/06/2022
Iechyd
Datrys yn gynnar
202200951
Datrys yn gynnar
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Cwynodd Ms X fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â gwneud diagnosis cywir o’i chyflwr yn ystod 9 mlynedd o driniaeth ffrwythlondeb a oedd yn cynnwys 2 rownd aflwyddiannus o Ffrwythloni In Vitro (“IVF”). Credai y dylid bod wedi tynnu ei Thiwbiau Ffalopaidd cyn iddi gael triniaeth oherwydd gallai’r cyflyrau y cafodd ddiagnosis ar eu cyfer fod wedi lleihau’r siawns o lwyddo yn sylweddol.
Wrth ystyried cwyn Ms X, nododd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cwblhau ei ymchwiliad eto ers 8 Tachwedd 2021.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gyflwyno ymddiheuriad ar unwaith ynghyd â rhoi diweddariad i Ms X ac i geisio cwblhau ei ymchwiliad erbyn 22 Gorffennaf 2022. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ffordd dderbyniol o ddatrys y gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.