Dewis eich iaith
Cau

Iechyd Meddwl Oedolion: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Dyddiad yr Adroddiad

23/10/2023

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202304415

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Cwynodd Mrs A i’r Bwrdd Iechyd am yr oedi ar ran eu Gwasanaeth Iechyd Meddwl cyn sicrhau sylw meddygol brys cywir a’r gofal nyrsio gofynnol i’w mam, pan oedd yn breswylydd mewn cartref gofal. Yn ei chwyn i’r Ombwdsmon, dywedodd Mrs A ei bod yn anghytuno bod y Bwrdd Iechyd wedi dilyn Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau”) yn eu hymchwiliad i’w chwyn.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn cydymffurfio â’r Rheoliadau. Roedd wedi methu mynd i’r afael yn benodol â chwyn Mrs A am yr oedi cyn i’w mam dderbyn gofal meddygol/nyrsio, ac mae’n ymddangos fel cronoleg o ddigwyddiadau yn unig. At hynny, ni wnaeth sylw ynghylch a oedd y Bwrdd Iechyd yn ystyried bod cyfleoedd wedi’u colli i ymyrryd yng ngofal ei mam, neu a oedd y dirywiad yng nghyflwr corfforol ei mam wedi’i nodi ar adeg ymweliadau gan staff y Bwrdd Iechyd. Yn ogystal, ni wnaeth unrhyw sylw ynghylch a oedd unrhyw atebolrwydd cymwys ar ran y Bwrdd Iechyd, y mae’r Rheoliadau’n nodi y dylai’r ymateb ei gynnwys.

Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb i Mrs A i’w chwyn, yn unol â’r Rheoliadau, o fewn 20 diwrnod gwaith.

Yn ôl