Dewis eich iaith
Cau

Iechyd Meddwl Oedolion: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dyddiad yr Adroddiad

15/11/2023

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202304539

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cwynodd Ms A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gwrthod cwblhau asesiad ADHD gan nad oedd, ar sail ei ffurflen hunanasesu, yn bodloni’r meini prawf ar gyfer asesiad ffurfiol. Dywedodd Ms A nad oedd erioed wedi derbyn na llenwi ffurflen hunanasesu.

Canfu’r Ombwdsmon fod asesiad y Bwrdd Iechyd o Ms A yn seiliedig ar nodiadau wedi’u teipio a anfonwyd gydag atgyfeiriad cychwynnol y meddyg teulu yn hytrach na’r ffurflen hunanasesu y cyfeiriwyd ati gan y Bwrdd Iechyd yn ei ymateb i gŵyn Ms A.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd ac er mwyn datrys cwyn Ms A, cytunodd y byddai, cyn pen 20 diwrnod gwaith, yn anfon y ffurflen hunanasesu at Ms A i’w llenwi ac ymddiheuro am y methiant i’w hanfon cyn hyn. O fewn 30 diwrnod gwaith arall, ystyried p’un a ydy Ms A yn bodloni’r meini prawf ar gyfer asesiad ADHD ar sail y ffurflen hunanasesu. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol ac felly ni ymchwiliodd.

Yn ôl