Dewis eich iaith
Cau

Iechyd Meddwl Oedolion: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Dyddiad yr Adroddiad

13/11/2023

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202206138

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn heb ei chadarnhau

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Cwynodd Mr F p’un a oedd y gofal a’r driniaeth a gafodd ar ôl mynd i’r Adran Achosion Brys 12 gwaith rhwng mis Ebrill a mis Awst 2022 yn briodol.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon, yn ystod pob un o ymweliadau Mr F â’r Adran Achosion Brys, ei fod wedi cael ei drin yn briodol, ac yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Roedd y clinigwyr yn yr Adran Achosion Brys a’r tîm cyswllt seiciatrig a oedd wedi’i asesu, wedi barnu ei risg o hunanladdiad a’i ryddhau’n briodol i wasanaethau cymunedol gan fod y risg yn dderbyniol ar gyfer gofal yn y gymuned. Roedd y gofal a gafodd Mr F yn gyson ar bob achlysur pan aeth i’r Adran Achosion Brys ac nid oedd unrhyw dystiolaeth i ddangos y dylai ei driniaeth fod wedi bod yn wahanol.
Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn.

Yn ôl