18/09/2023
Iechyd
Datrys yn gynnar
202304484
Datrys yn gynnar
Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Cwynodd Mrs A fod Practis Meddygon Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu ymateb i gŵyn roedd hi wedi’i gwneud i’r Practis ym mis Medi 2022 ynghylch y gofal a gafodd ei diweddar fam.
Canfu’r Ombwdsmon bod oedi annerbyniol wedi bod cyn i’r Practis ymateb i gŵyn Mrs A a’i fod wedi methu darparu diweddariadau rheolaidd ac/neu ystyrlon i Mrs A, gan achosi rhwystredigaeth iddi. Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Practis ac roedd y Practis wedi cytuno i gymryd y camau canlynol cyn pen 8 wythnos: ymddiheuro i Mrs A am yr oedi cyn ymateb i’w chwyn, esbonio’r rhesymau dros yr oedi, cyhoeddi ymateb i’r gŵyn a thalu £250 i Mrs A fel cydnabyddiaeth am yr oedi sylweddol, y methiant i ddarparu diweddariadau ystyrlon a’r amser a’r drafferth a gymerodd i wneud y gŵyn.
Derbyniodd yr Ombwdsmon y camau uchod fel dewis arall yn lle ymchwiliad ffurfiol.