19/11/2021
Iechyd
Datrys yn gynnar
202105255
Datrys yn gynnar
Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Cwynodd Mr X am y gofal a’r driniaeth wael a dderbyniodd gan bractis meddyg teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Practis”). Roedd yn anhapus nad oedd wedi derbyn ymateb i’w gŵyn.
Wrth wneud ymholiadau gyda’r Practis, cafodd yr Ombwdsmon ei gynghori fod ymateb wrthi’n cael ei baratoi. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r mater heb ymchwiliad.
Wrth setlo’r gŵyn, cytunodd y Practis i,
Erbyn 30 Tachwedd 2021
a) Rhoi ymddiheuriad i Mr X am yr oedi wrth ymateb i’w gŵyn
b) Rhoi ymateb manwl i gŵyn Mr X