Dewis eich iaith
Cau

Iechyd: Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dyddiad yr Adroddiad

01/11/2023

Pwnc

Iechyd

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202305872

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cwynodd Mrs X nad oedd Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymateb i gŵyn a wnaeth iddo ym mis Gorffennaf 2023.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Practis wedi rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â Mrs S ar lafar ond nad oedd wedi cynnig ymddiheuriad, esboniad na diweddariad ysgrifenedig iddi ynghylch yr oedi. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis i ymddiheuro i Mrs X, rhoi esboniad am yr oedi a rhoi diweddariad iddi o fewn pythefnos. Hefyd, cytunodd y Practis i ddarparu ei ymateb i’r gŵyn o fewn 13 wythnos.

Yn ôl