Dewis eich iaith
Cau

Iechyd: Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Dyddiad yr Adroddiad

29/11/2023

Pwnc

Iechyd

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202306341

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Cwynodd Mrs S, er iddi gyflwyno cwyn i bractis meddyg teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, nad oedd wedi cael ymateb i’w chŵyn.

Canfu’r Ombwdsmon fod Mrs S wedi cyflwyno ei chŵyn ym mis Mehefin 2023 ac nad oedd wedi cael diweddariadau rheolaidd nac ystyrlon. Daeth i’r casgliad fod y practis meddyg teulu wedi methu â gweithredu yn unol â’i drefn gwyno statudol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs S. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Yn lle cynnal ymchwiliad, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y practis meddyg teulu i ymddiheuro i Mrs S ac i roi esboniad am yr oedi ac i gyhoeddi ymateb ffurfiol i’r gŵyn o fewn pythefnos.

Yn ôl