Dewis eich iaith
Cau

Iechyd: Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Pwnc

Iechyd

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202306068

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Cwynodd Mrs A bod Canolfan Feddygol Dinas Powys wedi dileu ei henw o’u Practis wedi iddi gwyno am y ffordd y cafodd ei thrin.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Practis wedi darparu ymateb i gŵyn Mrs A, bod hwnnw’n canolbwyntio ar ei dadgofrestriad ac nad oedd yn mynd i’r afael yn llawn â chwyn Mrs A. Dywedodd bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis i ysgrifennu at Mrs A gydag ymddiheuriad am yr amryfusedd a chyhoeddi ymateb pellach i’r gŵyn fyddai’n delio yn llawn â’i phryderon o fewn 4 wythnos.

Yn ôl