Dewis eich iaith
Cau

Iechyd : Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Dyddiad yr Adroddiad

26/11/2021

Pwnc

Iechyd

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202105659

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Cwynodd Mrs H fod Practis Meddyg Teulu (“y Practis”) yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi methu â chydnabod neu ymateb i’w chŵyn a wnaeth mewn e-bost ddechrau Hydref 2021.

Wrth setlo cwyn Mrs H, cytunodd y Practis i gwblhau’r camau canlynol o fewn 6 wythnos i benderfyniad yr Ombwdsmon:

a) Ymddiheuro i Mrs H am fethu â chydnabod neu ymateb i’w chŵyn.

b) Rhoi ymateb i gŵyn Mrs H.

c) Talu £25 i Mrs H am ei hamser a’r drafferth o orfod gwneud cwyn i’r Ombwdsmon.

Yn ôl