Dewis eich iaith
Cau

Iechyd : Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Dyddiad yr Adroddiad

28/04/2023

Pwnc

Iechyd

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202207844

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Cwynodd Mr A ynghylch sut roedd meddygfa yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Feddygfa”) wedi dod â chytundeb cyd-ofal i ben mewn perthynas â darparu meddyginiaeth ADHD i Mr A. Roedd Mr A wedi cael diagnosis preifat ac roedd y cytundeb cyd-ofal wedi bod rhwng y clinig preifat a’r feddygfa. Cafodd Mr A wybod fod y cytundeb cyd-ofal wedi’i ganslo ym mis Hydref 2022. Gan fod y cytundeb wedi dod i ben, roedd yn rhaid i Mr A dalu swm sylweddol am y feddyginiaeth bob mis ac roedd pryder na fyddai’n gallu cael y feddyginiaeth oedd ei angen arno i reoli ei symptomau, gan fod y seiciatrydd preifat wedi bwriadu ei ryddhau i ofal y Practis. Cwynodd Mr A am y mater hwn trwy ei Eiriolwr CIC ym mis Tachwedd 2022. Ni dderbyniodd ymateb ysgrifenedig ffurfiol i’r gŵyn honno.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd y Practis wedi ymateb yn briodol i gŵyn Mr A. Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd y Practis â chais yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mr A am fethu ag ymateb i’w gŵyn a rhoi ymateb ysgrifenedig ffurfiol iddo. Cytunodd i gymryd y camau hyn o fewn 1 mis.

Yn ôl