01/07/2022
Iechyd
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202102580
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Practis Meddygol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Cwynodd Mr A fod y Practis, yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror 2021, wedi methu â darparu gofal a thriniaeth briodol i’w dad, Mr B, ar ôl iddo gael canlyniad positif am COVID-19. Yn anffodus, bu farw Mr B yn yr ysbyty ar 13 Chwefror.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Practis wedi cynnal asesiad priodol o gyflwr Mr B yn ystod ymgynghoriad dros y ffôn ar 3 Chwefror ac nad oedd wedi trefnu asesiad prydlon wyneb yn wyneb ar 11 Chwefror. Methiannau gwasanaeth oedd y rhain a oedd yn rhoi cyfle i Mr B gael triniaeth briodol yn gynt. Canfu’r Ombwdsmon, ar sail tebygolrwydd, y byddai Mr B wedi marw hyd yn oed pe bai wedi cael triniaeth am yr haint COVID-19 ar neu o gwmpas 3 Chwefror. Fodd bynnag, roedd y cyfle a gollwyd am ganlyniad gwell a’r trallod a’r ansicrwydd a allai ddeillio o hynny yn anghyfiawnder sylweddol i Mr A a’i deulu. Am y rhesymau hyn, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Practis wneud y canlynol:
• Ymddiheuro i Ms B am y diffygion a nodwyd.
• Gwneud taliad o £500 iddo mewn perthynas â thrallod sy’n deillio o’r cyfleoedd a gollwyd i drefnu gofal cefnogol cynharach i Mr B.
• Rhannu’r adroddiad gyda’r meddygon teulu dan sylw ac atgoffa ei holl feddygon teulu o bwysigrwydd cadw cofnodion da.
• Trafod yr adroddiad mewn Cyfarfod Llywodraethu Clinigol a chytuno ar gynllun gweithredu i wella’r ffordd y mae’n cynnal ymgynghoriadau o bell.
Cytunodd y Practis â’r argymhellion.