Dewis eich iaith
Cau

Iechyd: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Dyddiad yr Adroddiad

21/11/2023

Pwnc

Iechyd

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202305196

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Cwynodd cyfreithiwr ar ran Mrs S fod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi methu cwblhau ymchwiliad i wneud iawn yn brydlon.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod cyn ymateb i’r cyfreithiwr a bod Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi methu darparu diweddariadau ystyrlon. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs S.

Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i ymddiheuro i Mrs S ac egluro’r rhesymau dros yr oedi. Cytunodd hefyd y byddai’n anfon yr ymateb i’r ymchwiliad yn uniongyrchol at y cyfreithiwr o fewn 12 wythnos.

Yn ôl