Dewis eich iaith
Cau

Iechyd:Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dyddiad yr Adroddiad

09/06/2021

Pwnc

Iechyd

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202100427

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Cwynodd Mrs A nad oedd y Practis Meddyg Teulu wedi ymateb i gŵyn a gyflwynwyd ganddi ar 25 Hydref 2020 a oedd yn ymwneud â thriniaeth a gafodd ei diweddar dad.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Practis wedi ymateb i’r gŵyn, er bod ei swyddfa wedi anfon llythyr at y Practis ar 17 Rhagfyr 2020, yn gofyn iddo wneud hynny.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Practis a chytunodd, o fewn 10 niwrnod gwaith i:

· Rhoi ymateb cynhwysfawr i’r gŵyn a gyflwynwyd gan Mrs A ar 25 Hydref 2020, ynglŷn â’r driniaeth a gafodd ei diweddar dad, Mr B.

Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon y byddai hyn yn datrys y materion a oedd wedi’u codi yn y gŵyn.

Yn ôl