21/06/2021
Maethu a Phlant Eraill sy'n Derbyn Gofal
Datrys yn gynnar
202101275
Datrys yn gynnar
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Mae Mr X yn ofalydd maeth i’w ŵyr. Cwynodd nad oedd y Cyngor yn caniatáu iddo gael mynediad at ran o’i bolisi talu; dywedodd y dylai pob gofalydd maeth gael eu trin yn gyfartal.
Ar sail yr wybodaeth oedd ar gael, ymddengys i’r Ombwdsmon y dylai cwyn Mr X fod wedi cael ei hystyried o dan y weithdrefn cwynion statudol gwasanaethau cymdeithasol, ond nid dyna a ddigwyddodd.
Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Mr X ac i agor ymchwiliad o dan gam 2 o’r broses statudol o fewn 1 mis.