Dewis eich iaith
Cau

Maethu. Plant sy'n Derbyn Gofal. A Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig: Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Dyddiad yr Adroddiad

09/11/2023

Pwnc

Maethu. Plant sy'n Derbyn Gofal. A Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202106412

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau

Corff Perthnasol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Gwnaethom ymchwilio i gŵyn gan Mrs A nad oedd y Cyngor wedi gweithredu’r argymhelliad a wnaed gan Ymchwilydd Annibynnol Cam 2 mewn perthynas â thalu lwfans gwarcheidiaeth arbennig (“lwfans SGO”), a bod ei benderfyniad i wneud hynny yn afresymol. Yr argymhelliad oedd y dylai’r Cyngor dalu swm i Mrs A a’i gŵr, Mr A, sy’n cyfateb i’r swm y byddent wedi’i dderbyn pe bai lwfans gwarcheidiaeth arbennig wedi’i roi iddynt ers yr adeg y daeth eu hŵyr, B, atynt.

Canfu’r Ombwdsmon fod y penderfyniad i beidio â gweithredu argymhelliad yr Ymchwilydd Annibynnol Cam 2 yn afresymol. Roedd methiant wedi bod ar ran y Cyngor i ystyried y ffeithiau perthnasol a chofnodi ei resymeg dros wneud ei benderfyniad i beidio â dilyn argymhelliad Cam 2 yn glir. Roedd penderfyniad y Cyngor yn ddiffygiol i wrthod cymorth ariannol ar y sail mai dim ond plant sy’n derbyn gofal (“LAC” – mae plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol os yw llys wedi rhoi gorchymyn gofal i roi plentyn mewn gofal, neu fod adran gwasanaethau plant y cyngor wedi gofalu am y plentyn am fwy na 24 awr) sy’n gymwys i gael eu hystyried am gymorth ariannol. Methodd y Cyngor hefyd â chyflawni ei rwymedigaethau o dan reoliadau gwarcheidiaeth arbennig perthnasol er gwaethaf y ffaith fod diffyg ariannol wedi’i bennu yn dilyn asesiad a phenderfyniad.

Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Mr a Mrs A am y methiannau a nodwyd, cyfrifo swm y lwfans SGO y byddai Mr a Mrs A wedi’i dderbyn o’r dyddiad y rhoddwyd y SGO hyd at ddyddiad yr ewyllys da, a thalu swm o iawndal ariannol i Mr a Mrs A unwaith y cytunir ar y cyfrifiad gyda’r Ombwdsmon. At hynny, cytunodd y Cyngor i gynnal archwiliad o blant eraill nad ydynt yn “Derbyn Gofal” sydd wedi bod yn byw gyda gwarcheidwaid arbennig ers 2015 i weld a gafodd cymorth ariannol ei wrthod am nad oedd y plentyn yn LAC ynghyd â chynnal asesiad newydd o’r achosion hyn.

Cytunodd y Cyngor i rannu canlyniad yr archwiliad gyda’r Ombwdsmon a Phwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor.

Yn ôl