Dewis eich iaith
Cau

Materion rhestr glaf: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dyddiad yr Adroddiad

08/11/2023

Pwnc

Materion rhestr glaf

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202302825

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Cwynodd Ms Y nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cydnabod yr effaith arni yn sgil yr oedi cyn cael llawdriniaeth i dynnu polyp o’r rectwm (tyfiant meinwe o wal y rectwm). Yn benodol, cwynodd fod hyn wedi effeithio arni’n gorfforol ac yn feddyliol, gan gynnwys achosi niwed difrifol i’r feinwe, risg uwch o ddatblygu canser a’r angen am golonosgopi bob blwyddyn (triniaeth drwy wthio camera cul i mewn drwy’r anws).

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi afresymol wedi bod cyn i Ms Y gael llawdriniaeth i dynnu polyp o’r rectwm. O ganlyniad, cafodd Ms Y gyfnod hir o anesmwythder a gofid. Hefyd, bydd Ms Y nawr yn cael triniaeth goruchwylio 1 flwyddyn a 3 blynedd ar ôl y llawdriniaeth – efallai na fyddai wedi bod angen y rhain pe bai’r llawdriniaeth wedi’i gwneud yn gynt. Mae hwn yn fethiant gwasanaeth ac yn anghyfiawnder i Ms Y. Cafodd y gŵyn hon ei chadarnhau.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms Y am yr oedi cyn ei llawdriniaeth a’r effaith a gafodd hynny arni. Cytunodd hefyd i dalu iawndal o £750 iddi am y camweinyddu o ran colli ei hatgyfeiriad ac am yr oedi cyn ei llawdriniaeth. Yn olaf, cytunodd i rannu’r adroddiad a’i ganfyddiadau â chlinigwyr perthnasol i fyfyrio arnynt.

Yn ôl