08/09/2021
Parciau, Canolfannau a chyfleusterau awyr agored
Datrys yn gynnar
202100954
Datrys yn gynnar
Cyngor Tref Llandeilo
Cwynodd Mr X am fethiant y Cyngor i weithredu, dros gyfnod o 5 mlynedd, i ddarparu mynediad diogel i bobl anabl i barc lleol.
Er bod y dystiolaeth yn awgrymu bod y Cyngor wedi bod yn gweithio ar ddatrys y sefyllfa, roedd yr Ombwdsmon yn poeni bod y materion hyn wedi bod yn parhau ers tro, heb benderfyniad terfynol gan y Cyngor. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb archwiliad.
Ar y cyfan, penderfynodd yr Ombwdsmon na fyddai’n briodol pennu amserlen bendant, ond ceisiodd a chafodd gytundeb y Cyngor i fwrw ymlaen â’r materion hyn i’r dyfodol, rhoi diweddariadau rheolaidd i Mr X a rhoi gwybod iddo am ei benderfyniad terfynol