30/09/2021
Parcio (gan gynnwys gorfodi a beilïaid)
Datrys yn gynnar
202102833
Datrys yn gynnar
Cyngor Dinas Casnewydd
Cwynodd Ms A na wnaeth Cyngor Dinas Casnewydd gydnabod ei chais am fan parcio i bobl anabl, ac roedd yn hwyr yn ymateb i’w llythyrau, gan gynnwys llythyr o gŵyn. Dywedodd Ms A er bod Adran Briffyrdd y Cyngor yn dweud ei bod wedi ysgrifennu ati, nid oedd wedi derbyn unrhyw ohebiaeth gan yr adran honno.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad na wnaeth y Cyngor gydnabod ac ymateb i lythyrau Ms A mewn modd amserol, ac nid oedd yn gallu egluro beth ddigwyddodd iddynt dros gyfnod o sawl mis. Roedd tystiolaeth fod yr Adran Briffyrdd wedi drafftio llythyr i Ms A, ond nid oedd yn glir os cafodd ei anfon. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod diffyg gwybodaeth ar wefan y Cyngor ynghylch y cais am fan parcio i bobl anabl. Bu i fethiant y Cyngor i ymateb i Ms A mewn modd amserol arwain at oedi o flwyddyn o ran ystyried ei chais. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb archwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor: o fewn 10 diwrnod gwaith i ymddiheuro i Ms A, talu £125 iddi a rhoi eglurhad iddi o sut a phryd y gall gyflwyno cais, o fewn mis, i gyhoeddi gwybodaeth barhaol ar ei wefan am y broses gwneud cais am fan parcio, ac o fewn 2 fis, cynnal adolygiad o’i system bostio fewnol. Os bydd cais Ms A yn llwyddiannus yn y dyfodol, cytunodd y Cyngor o fewn mis o’i benderfyniad, y byddai’n ystyried iawndal ariannol pellach, i gydnabod yr anghyfiawnder a achoswyd o ran gohirio’r ddarpariaeth o fan parcio i bobl anabl.