20/08/2021
Rheoli Plâu/Niwsans cŵn/Baeddu gan gŵn
Datrys yn gynnar
202103003
Datrys yn gynnar
Cyngor Bro Morgannwg
Cwynodd Miss X fod bwydo adar gwyllt yn rheolaidd gan ei chymydog yn achosi niwsans sŵn, perygl i iechyd ac yn effeithio ar allu Miss X i ddefnyddio ei gardd.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor roi ymateb ysgrifenedig i Miss X (o fewn 3 wythnos) i egluro pa opsiynau sydd ar gael iddi er mwyn ceisio datrys y broblem.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol i’r cwynion.