Dewis eich iaith
Cau

Rheoli ystâd yn yr awyr agored (gan gynnwys gwrychoedd ac ati): Bro Myrddin Housing Association

Dyddiad yr Adroddiad

09/11/2023

Pwnc

Rheoli ystâd yn yr awyr agored (gan gynnwys gwrychoedd ac ati)

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202305707

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Bro Myrddin Housing Association

Cwynodd Mr T nad oedd Cymdeithas Tai Bro Myrddin wedi ymgymryd â’r gwaith allanol y mae’n talu tâl gwasanaeth amdano.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Gymdeithas Dai wedi cwrdd â Mr T yn dilyn ei gŵyn, nad oedd wedi ymateb yn ysgrifenedig i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr T. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Dai i ysgrifennu at Mr T i ymddiheuro ac i roi eglurhad am y diofalwch a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn un wythnos.

Yn ôl