Dewis eich iaith
Cau

Rheoli ystâd yn yr awyr agored (gan gynnwys gwrychoedd ac ati): Tai Cymunedol Bron Afon

Dyddiad yr Adroddiad

01/12/2023

Pwnc

Rheoli ystâd yn yr awyr agored (gan gynnwys gwrychoedd ac ati)

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202306883

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Tai Cymunedol Bron Afon

Cwynodd Mr S fod Tai Cymunedol Bron Afon Cyf wedi gwrthod ei gais am ffens i gadw ei gi XL Bully o fewn ei ardd. Dywedodd mai er diogelwch ei gi oedd hyn, ac i gydymffurfio â rheoliadau perchnogaeth cŵn newydd.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Gymdeithas wedi ymateb i Mr S yn unol â’i drefn gwyno, nad oedd Mr S wedi cael gwybodaeth werthfawr am ei ddewisiadau i gyflwyno cais i ‘wella’r cartref’. Dywedodd fod hyn wedi achosi dryswch i Mr S. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Yn lle cynnal ymchwiliad, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ddarparu ymateb pellach i Mr S, gan esbonio’r dewisiadau sy’n agored iddo a sut mae cyflwyno cais i ‘wella’r cartref;. Cytunodd i weithredu hyn o fewn 30 diwrnod gwaith.

Yn ôl