Dewis eich iaith
Cau

Tai: Cymdeithas Tai Hafod

Dyddiad yr Adroddiad

08/12/2023

Pwnc

Tai

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202307218

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cymdeithas Tai Hafod

Cwynodd Ms D fod Cymdeithas Dai Hafod wedi hysbysu’r Ombwdsmon nad oedd hi wedi gwneud cwyn iddynt, er bod ganddi dystiolaeth i brofi ei bod wedi gwneud.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi darparu gwybodaeth anghywir i’w swyddfa. Ar ôl cynnal ymholiadau pellach, cydnabu’r Gymdeithas eu bod wedi derbyn cwyn Ms D. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn yn achosi rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Ms D. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ymddiheuro a rhoi esboniad i Ms D am yr amryfusedd, darparu ymateb llawn a therfynol i’r gŵyn iddi, a thalu iawndal o £100 o fewn 30 diwrnod gwaith.

Yn ôl