Dewis eich iaith
Cau

Tai : Cymdeithas Tai Sir Fynwy

Dyddiad yr Adroddiad

27/08/2021

Pwnc

Tai

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202102035

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cymdeithas Tai Sir Fynwy

Cwynodd Mrs M nad oedd Cymdeithas Tai Sir Fynwy wedi cyflawni ei rhwymedigaethau fel ei landlord, gan nad oedd wedi cynnal ei threfniadau storio allanol yn briodol. Dywedodd, oherwydd bod y storfa mewn cyflwr gwael, a bod eitemau gan y tenant blaenorol yn dal i fod y tu mewn iddi, nad oedd yn gallu ei defnyddio, ac o’r herwydd roedd dau feic a oedd yn eiddo iddi wedi cael eu dwyn o’r tu allan i’w fflat.

Dywedodd y Gymdeithas Dai ei bod yn ymwybodol o’r problemau gyda’r gwaith storio ac uwchraddio, ond oherwydd oedi nad oedd modd ei osgoi, gan gynnwys Covid-19 a materion draenio, bu oedi wrth uwchraddio’r storfa, ond roedd hyn wedi’i wneud erbyn hyn. Dywedodd na fyddai wedi bod yn gyfrifol am ddwyn y beiciau hyd yn oed os cawsant eu dwyn o’r storfa, ond roeddent yn cydnabod, pe bai’r storfa wedi bod mewn cyflwr da, y gallai’r beiciau fod wedi bod yn fwy diogel yno.

Cytunodd y Gymdeithas Dai i wneud taliad ewyllys da o £300 i Mrs M i fynd tuag at gael beiciau newydd.

Yn ôl