Dewis eich iaith
Cau

Tai: Cyngor Abertawe

Dyddiad yr Adroddiad

30/11/2023

Pwnc

Tai

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202305890

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Abertawe

Cwynodd Miss C fod Cyngor Abertawe wedi methu ymateb i’w negeseuon ebost am y difrod a achoswyd i wal ei gardd a’r gwaith atgyweirio a wnaed.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ymateb o gwbl i bob un o negeseuon ebost Miss C ac nad oedd wedi cofnodi ei phryderon fel cwyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss C. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Miss C i ymddiheuro am y diofalwch ac i ymateb i’r gŵyn o fewn pythefnos.

Yn ôl