Dewis eich iaith
Cau

Tai : Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Dyddiad yr Adroddiad

28/07/2021

Pwnc

Tai

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202100805

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cwynodd Ms A am sut yr ymatebodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam pan roddodd wybod am nam gyda thân trydan yn ei thŷ, a sut yr oedd y Cyngor wedi ymateb i’w phryderon. Dywedodd Ms A nad oedd yr archwiliad o’r tân yn ddigonol a bod y Cyngor wedi dod i’r casgliad yn annheg mai difrod gan y tenant ydoedd. Roedd Ms A yn poeni am ddiogelwch y tân a bod ei theulu wedi gorfod ymdopi heb y tân yn ystod misoedd y gaeaf.

Canfu’r Ombwdsmon na fu archwiliad annibynnol o’r tân ei hun ac felly roedd casgliad y Cyngor yn anghyfiawn. Roedd diffyg cofnodion a chyfathrebu amserol gyda Ms A, a dim tystiolaeth bod y Cyngor wedi ystyried yr effaith a achoswyd drwy beidio gallu defnyddio’r tân.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i un ai newid y tân heb gost i Ms A neu drefnu archwiliad annibynnol o’r tân ei hun gydag adroddiad. Pe bai’r adroddiad yn nodi difrod gan y tenant, cynnig cymorth ariannol i Ms A gyda’r gost, ac os canfyddir nam, newid y tân heb gost i Ms A. Yn ogystal â’r camau hyn, cytunodd y Cyngor i gynnig ymddiheuriad i Ms A am ddiffyg cyfathrebu amserol a phriodol, a diffyg ystyried effaith peidio â gallu defnyddio’r tân.

Yn ôl