Dewis eich iaith
Cau

Tai: Cyngor Caerdydd

Dyddiad yr Adroddiad

07/12/2023

Pwnc

Tai

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202306025

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Caerdydd

Cwynodd Mr J ei fod wedi derbyn gwybodaeth anghyson gan Gyngor Caerdydd yn ymwneud â bambŵ a oedd yn achosi difrod i ffens ei gymydog a bod y Cyngor wedi methu â darparu tystiolaeth o’r difrod.

Canfu’r Ombwdsmon fod gan y Cyngor dystiolaeth ffotograffig o’r difrod na allai ei datgelu i Mr J heb ganiatâd y cymydog yr oedd ei eiddo yn y lluniau. Achosodd hyn rwystredigaeth ychwanegol i Mr J. Mae’r Cyngor bellach wedi cael caniatâd.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad. Gofynnodd a chafodd gytundeb y Cyngor i gyhoeddi tystiolaeth o’r ffotograff, gydag esboniad pam na allai wneud hynny yn gynharach, o fewn 1 wythnos.

Yn ôl