Dewis eich iaith
Cau

Tai : Cyngor Gwynedd

Dyddiad yr Adroddiad

01/07/2021

Pwnc

Tai

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202100778

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Gwynedd

Cyflwynodd Miss A gŵyn ar ran Mr B am Gyngor Gwynedd. Dywedodd Miss A nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’r holl bwyntiau a godwyd mewn cwyn a gyflwynwyd iddo gan Mr B.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ymateb yn llawn i gŵyn Mr B.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ddarparu ymateb pellach i Mr B, o fewn 20 diwrnod gwaith, gan roi sylw i’r holl faterion a oedd heb eu datrys.

Yn ôl