25/06/2021
Tai
Datrys yn gynnar
202100546
Datrys yn gynnar
Cyngor Gwynedd
Cwynodd Mrs X nad oedd wedi cael ymateb i’w chŵyn.
Wrth ystyried cwyn Mrs X, roedd yr Ombwdsmon yn anhapus â’r oedi roedd wedi’i brofi, nad oedd wedi cael ymateb a bod diffyg gweithredu ar ran y Cyngor wedi achosi anghyfleustra iddi. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i:
• Ymddiheuro i Mrs X am yr oedi cyn ymateb i’w chŵyn.
• Rhoi eglurhad llawn i Mrs X am yr oedi.
Ymateb yn llawn i gŵyn Mrs X.
Roedd y camau y cytunwyd arnynt wedi’u cyflawni erbyn cwblhau’r ymholiadau.