31/05/2022
Tai
Datrys yn gynnar
202200029
Datrys yn gynnar
Tai Gogledd Cymru
Cwynodd Mr X am y ffordd y deliodd y Gymdeithas Dai â’i gwynion am niwsans sŵn oddi wrth ei gymydog. Dywedodd Mr X, er iddo gwyno a gwneud adroddiadau am niwsans sŵn, nad oedd wedi cael ymateb gan y Gymdeithas Dai.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Gymdeithas Dai wedi darparu ymateb i’r gŵyn ynglŷn â phryderon newydd Mr X. Cytunodd y Gymdeithas Dai i gwblhau’r canlynol i setlo cwyn Mr X erbyn 12 Gorffennaf 2022, yn hytrach na bod yr Ombwdsmon yn ymchwilio iddi:
a) Cofnodi ac ymchwilio i adroddiadau o sŵn, gan gynnwys gosod offer monitro sŵn
b) Darparu i Mr X ymateb i’r canfyddiadau newydd.