23/06/2022
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Datrys yn gynnar
202201687
Datrys yn gynnar
Brwdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Cwynodd Ms X ei bod wedi cyflwyno cwyn i’r Bwrdd Iechyd ym mis Hydref 2021. Fodd bynnag, er gwaethaf ei bod wedi mynd ar ôl y Bwrdd Iechyd sawl gwaith i gael ymateb, nid oedd Ms X wedi cael ymateb eto i’w chŵyn.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Ms X wedi cael ymateb ffurfiol i’w chŵyn a bod gweithredoedd y sefydliad wedi achosi anhwylustod iddi. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyflawni’r camau canlynol fel dewis arall yn lle ymchwilio i’r gŵyn:
• Ymddiheuro i Ms X am yr oedi wrth ymateb i’w chŵyn.
• Rhoi esboniad i Ms X am yr oedi.
• Rhoi taliad ex-gratia i Ms X o £250 fel ffordd o ymddiheuro am yr oedi wrth ymateb i’w chŵyn.
• Rhoi ymateb llawn i gŵyn Ms X erbyn 15 Gorffennaf 2022