08/04/2021
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
201907352
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Brwdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Cwynodd Ms A am y driniaeth a’r gofal a gafodd ei diweddar ewythr, Mr B, yn ystod ei arhosiad ar Ward Dan Danino (“y Ward”) yn Ysbyty Treforys (“yr Ysbyty Cyntaf”) rhwng 6 Mawrth a 3 Gorffennaf 2019. Yn benodol, cwynodd fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu ag asesu’n ddigonol alluedd meddyliol Mr B i wneud penderfyniadau am ei ofal ei hun, a’i ddiogelu fel oedolyn agored i niwed yn ystod ei arhosiad ar y Ward, er mwyn darparu gofal a thriniaeth resymol i Mr B mewn perthynas â llid yr isgroen yn ei goesau, a chyfathrebu’n briodol â theulu Mr B mewn perthynas â’u pryderon am ei driniaeth a’i les.
Cafodd yr Ombwdsmon fod ystyriaeth ddyledus wedi’i rhoi i alluedd meddyliol Mr B a’r angen i’w ddiogelu yn ystod ei arhosiad yn yr ysbyty, a bod cynllun gofal priodol wedi’i wneud i drin llid yr isgroen yng nghoesau Mr B, ond ei fod wedi anghydffurfio gan mwyaf â’i driniaeth a bod hyn wedi ei atal rhag gwella. Felly, ni chadarnhawyd y cwynion hyn. Er hynny, collwyd cyfleoedd i gynnwys y teulu wrth helpu Mr B â’i driniaeth a byddai wedi bod yn bosibl cyfathrebu mewn ffordd fwy rhagweithiol. Roedd y gofid a achoswyd gan y methiant hwn wedi gwneud cam â Ms A a chadarnhawyd yr agwedd hon ar y gŵyn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd, o fewn 1 mis ar ôl gwneud yr adroddiad, yn ymddiheuro i Ms A am y methiannau a nodwyd ac yn talu iawndal o £250 i gydnabod yr amser a’r drafferth o ddod â’i chwyn at yr Ombwdsmon. Roedd hefyd yn argymell bod yr adroddiad yn cael ei rannu â’r clinigwyr a oedd yn gysylltiedig er mwyn myfyrio arno’n feirniadol a dysgu gwersi mewn perthynas â chyfathrebu â theuluoedd cleifion.