07/10/2021
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202003237
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Brwdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Cwynodd Mrs J am yr agweddau canlynol ar y gofal a dderbyniodd ei diweddar ŵr, Mr J, yn Ysbyty’r Tywysog Siarl:
• Bod codein wedi cael ei ragnodi iddo.
• A ddylai Mr J fod wedi derbyn albwmin mewnwythiennol yn gynt.
• A oedd Mr J wedi derbyn yr hylifau mewnwythiennol priodol.
Cwynodd Mrs J hefyd:
• Am yr oedi cyn i Mr J gael ei weld gan neffrolegydd rhwng 2016 a 2019.
• Na chafodd Mr J wybod am gerrig bustl oedd wedi eu darganfod ar sgan yn 2019.
Casglodd yr Ombwdsmon nad oedd unrhyw beth yng nghofnodion Mr J i awgrymu na ddylai fod wedi derbyn codein. Nid oedd yn briodol i Mr J fod wedi derbyn albwmin yn gynt oherwydd nad oedd ei iau’n methu. Casglodd yr Ombwdsmon nad oedd unrhyw oedi cyn i Mr J gael ei weld gan neffrolegydd wedi cael effaith sylweddol ar ei gyflwr. Roedd y cerrig bustl wedi digwydd â chael eu darganfod ar y sgan ac ni chawsant effaith ar driniaeth na chanlyniad Mr J, felly nid oedd methu â rhoi gwybod iddo wedi achosi anghyfiawnder i Mr J. Penderfynodd yr Ombwdsmon beidio â derbyn yr elfennau hyn o’r gŵyn. Fodd bynnag, derbyniodd y gŵyn am hylifau mewnwythiennol (IV) oherwydd nid oedd cofnod bod Mr J wedi derbyn unrhyw hylifau ar rai diwrnodau, oedd yn anghyfiawnder iddo, ynghyd â siartiau perthnasol anghyflawn ar ddiwrnodau eraill.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro wrth Mrs J am y methiannau, adolygu ei bolisi ar dynnu cleifion o’i restr (yn ymwneud â’r oedi cyn i Mr J gael ei weld gan neffrolegydd) a threfnu hyfforddiant gloywi i staff ar ofalu am gleifion sydd angen therapi hylifau arnynt.