10/05/2021
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202003686
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Brwdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Cwynodd Ms X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu â thrafod cost triniaeth/cymorth â’i thad, Mr Y, un o ddinasyddion y DU sy’n byw dramor, a/neu ei deulu, cyn ei driniaeth/lawdriniaeth i sicrhau ei fod ef a/neu ei deulu yn cael gwybodaeth lawn am yr holl gostau dan sylw ac yn cael amserlen briodol i wneud penderfyniad gwybodus. Cwynodd Ms X hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â delio â’i chŵyn yn briodol ac wedi methu â rhoi ymateb digonol.
Canfu’r ymchwiliad fod Mr Y yn atebol i dalu am ei ofal a’i driniaeth gan nad oedd yn preswylio yn y DU fel arfer. Ar sail tebygolrwydd, roedd yn fwy tebygol na pheidio bod Mr Y a/neu ei deulu wedi cael gwybod yn yr Adran Achosion Brys y gallai fod angen i Mr Y dalu am ei ofal a’i driniaeth. Nid oedd ei lawdriniaeth frys wedi’i heithrio rhag gorfod talu ffioedd gan fod ei driniaeth wedi’i rhoi ar ôl iddo gael ei dderbyn i ward ac nid pan oedd yn yr Adran Achosion Brys. Canfu’r ymchwiliad, er nad oedd y Tîm Gweinyddu Tramor wedi ymweld â Mr Y cyn ei lawdriniaeth, ni fyddai wedi bod yn briodol gohirio ei lawdriniaeth, sef yr unig opsiwn. Felly, nid oedd cadarnhad dros yr elfen hon o’r gŵyn. Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb digonol i Ms X i’w chŵyn ac nad oedd wedi delio â’i chŵyn yn briodol. Felly roedd cafodd yr elfen hon o’r gŵyn ei chadarnhau.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Ms X a thalu £250 i gydnabod yr amser a’r drafferth y gellid fod wedi ei hosgoi o gyflwyno ei chŵyn i’r Ombwdsmon.