Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty : Brwdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Dyddiad yr Adroddiad

17/11/2022

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202102096

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn heb ei chadarnhau

Corff Perthnasol

Brwdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Yn 2021, cafodd Ms B ei derbyn i ysbyty a chadwyd hi yno o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Cwynodd na ellid cyfiawnhau ei chadw yno gan fod ei chyflwr ar adeg ei rhyddhau, ar ôl ychydig ddyddiau’n unig, yr un fath ag ydoedd ar adeg ei derbyn. Gwnaeth ragor o gwynion, gan gynnwys nad oedd yr ysbyty wedi’i hysbysu o’i hawliau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, ac nad oedd wedi llunio na gweithredu cynllun triniaeth yn ystod ei chyfnod yno.
Ni chadarnhawyd y cwynion. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod sail resymol dros gadw Ms B yn yr ysbyty, a’i bod wedi’i hasesu’n briodol. Mi oedd y modd y darparwyd gofal iddi wedi’i ddogfennu’n briodol gyda rhesymwaith clir a rhesymol. Cafodd Mrs B ei hadolygu’n rheolaidd gan glinigydd priodol. Nodwyd gwelliant yn ystod ei chyfnod yn yr ysbyty a gwnaed y penderfyniad i’w rhyddhau ar ôl asesiad a ddaeth i’r casgliad nad oedd angen ei chadw yno mwyach. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad hefyd fod Ms B wedi cael ei hysbysu o’i hawliau.

Yn ôl