20/12/2022
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Ni Chadarnhawyd
202105999
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn heb ei chadarnhau
Brwdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Roedd cwyn Miss A yn ymwneud â’r gofal a’r driniaeth a gafodd yn ystod ei chyfnod yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ym mis Ebrill 2021. Yn benodol, cwynodd Miss A ei bod wedi’i rhyddhau’n amhriodol ar 22 Ebrill gan na chafodd ei harchwilio’n iawn, er enghraifft gyda sbecwlwm neu sgan uwchsain, yn dilyn rheoli ei chamesgoriad yn feddygol.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad ei bod yn rhesymol i Miss A fod wedi cael ei rhyddhau i fynd adref ar 22 Ebrill ac nad oedd yn fethiant i gynnal archwiliadau neu ymchwiliadau pellach. Y rheswm am hyn oedd, yn absenoldeb gwaedu a phoen sy’n gwaethygu yn ystod 22 Ebrill, nad oedd angen ymchwiliad pellach fel sgan uwchsain yn unol â chanllawiau perthnasol y Bwrdd Iechyd a’r canllawiau cenedlaethol. Canfu’r Ombwdsmon fod presenoldeb Miss A wedyn yn Adran Achosion Brys ysbyty arall ar 25 Ebrill oherwydd mwy o boen a gwaedu a achoswyd gan feinwe beichiogrwydd wedi’i adael ar ôl, yn anffodus, yn gymhlethdod hysbys o ran rheoli camesgoriad mewn modd meddygol. O ganlyniad, ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.