12/07/2021
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Ni Chadarnhawyd
202001079
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn heb ei chadarnhau
Brwdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Cwynodd Ms L am safon gyffredinol y gofal mamolaeth a gafodd yn Ysbyty’r Tywysog Siarl (“yr Ysbyty”) ar 3 achlysur gwahanol yn 2017, 2018 a 2019.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Bwrdd Iechyd”), yn ei ymateb i’r gŵyn, wedi ymddiheuro’n briodol ac wedi cynnig swm derbyniol o iawn ariannol i Ms L yn dilyn ei hymweliad cyntaf â’r Ysbyty yn 2017 (cynnig a wrthododd hi). Gwahoddodd yr Ombwdsmon y Bwrdd Iechyd i gynnig yr iawn ariannol eto gan mai dyma’r swm o arian y byddai ef wedi’i argymell petai wedi cadarnhau’r elfen hon o gŵyn Ms L.
Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon â’r gofal cyffredinol a roddwyd i Ms L yn 2018 a 2019. Lle’r oedd y Bwrdd Iechyd wedi canfod methiannau yn ei ymateb i’r gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn fodlon â’r camau yr oedd wedi’u cymryd i fynd i’r afael â’r methiannau a daeth i’r casgliad nad oedd angen cymryd camau pellach.
Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus mai prin iawn oedd y cyfeiriadau yng nghofnodion meddygol Ms L a oedd yn nodi ei lefelau BMI uchel. Er gwaetha’r risgiau mwy sy’n gysylltiedig â lefel BMI uchel, nid oedd cynllun cyn geni priodol wedi cael ei greu ar gyfer Ms L i adlewyrchu ei sefyllfa. Er nad oedd hyn wedi achosi unrhyw niwed i Ms L, gwahoddodd yr Ombwdsmon y Bwrdd Iechyd i ystyried ei sylwadau a rhoi manylion iddo am yr hyn y mae’n ei wneud yn awr o ran cynllunio gofal ar gyfer menywod sydd â lefel uchel o BMI yn ystod beichiogrwydd. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn.