04/05/2022
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Datrys yn gynnar
202105485
Datrys yn gynnar
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Cwynodd Mrs X am y gofal a ddarparwyd i’r gŵr Mr X, gan un o Ymddiriedolaethau’r GIG yn Lloegr (“yr Ymddiriedolaeth”) Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod gan y Bwrdd Iechyd gyfrifoldeb cyfreithiol dros ofal Mr X fel un o drigolion Powys a oedd yn gofrestredig â meddyg teulu ym Mhowys. Gan roi ystyriaeth i’r trefniadau traws-ffiniol sydd ar waith rhwng y Bwrdd Iechyd a’r Ymddiriedolaeth ynglŷn â darparu gofal a’r rhwymedigaethau delio â chwynion (“Gweithio i Wella” (GiW) y rheoliadau ar gyfer delio â chwynion yng Nghymru), roedd yr Ombwdsmon yn pryderu nad oedd y trefniadau cwyno yn cael eu gweithredu’n briodol ac na roddwyd cyfle i’r Bwrdd Iechyd ystyried y gofal a ddarparwyd (ni chafodd ei hysbysu gan yr Ymddiriedolaeth o gŵyn Mrs X).
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gymryd y camau canlynol, cyn pen 30 diwrnod gwaith o ddyddiad y penderfyniad:
• Comisiynu cyngor arbenigol annibynnol / adolygiad o’r gofal a ddarparwyd i Mr X ac os yw hyn yn nodi bod Rhwymedigaeth Gymhwyso (a ddioddefwyd niwed o ganlyniad i dorri dyletswydd gofal) yn bodoli, delio â’r gŵyn dan ofynion Gwneud Iawn GiW.
• Adolygu’r broses a ddilynwyd gan yr Ymddiriedolaeth i ddelio â’r cwynion i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’i weithdrefn gwynion ei hun ac yn gydnaws â GiW ac unrhyw ofynion ynglŷn â delio â chwynion a nodir yn y trefniant comisiynu gyda’r Ymddiriedolaeth.
Ystyriai’r Ombwdsmon fod y camau y dywedodd y Bwrdd Iechyd y byddai’n eu cymryd yn rhesymol a’u bod yn ddull cymesur o ddatrys y gŵyn. Daethpwyd â’r gŵyn i ben felly ar y sail hon.