24/11/2021
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Datrys yn gynnar
202104770
Datrys yn gynnar
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cwynodd Ms A ei bod hi’n anfodlon ag ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i’w phryderon am y gofal a’r driniaeth cleifion mewnol a ddarparwyd i’w diweddar fam. Dywedodd fod yr ymateb yn wallus a datgelodd wybodaeth am ddiagnosis ei mam, nad oedd wedi’i drafod â’r teulu o’r blaen, na’i ddogfennu ar y dystysgrif marwolaeth. Gofynnodd Ms A am gyfarfod gyda’r Bwrdd Iechyd i drafod yr ymateb a gofal a thriniaeth ei mam, ond oherwydd nad oedd aelodau allweddol o staff ar gael, bu’n rhaid canslo 2 gyfarfod ar wahân. Canfu’r Ombwdsmon fod Ms A dal eisiau’r cyfle i drafod ei phryderon yn uniongyrchol gyda’r Bwrdd Iechyd, ond roedd hi’n rhwystredig ac wedi colli ffydd y byddai cyfarfod yn digwydd.
Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Gofynnodd yr Ombwdsmon am gytundeb y Bwrdd Iechyd i drefnu cyfarfod gyda Ms A o fewn 10 diwrnod gwaith, i drafod yr ymateb i’r gŵyn a phryderon eraill y teulu am ofal a thriniaeth eu mam.