24/11/2022
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Setliadau gwirfoddol
202107623
Setliadau gwirfoddol
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cwynodd Mr B am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan y Bwrdd Iechyd. Yn benodol cwynodd am y canlynol:
a) Yn ystod ei gyfnod yn yr ysbyty ym mis Mawrth 2020 bu methiant i ddarparu cymorth digonol ar gyfer ei anghenion toiled.
b) Ar 1 Ebrill 2020 bu methiant i gael a chofnodi’n briodol eu cydsyniad ar sail gwybodaeth i osod cathetr.
c) Nid oedd y Tîm Nyrsio Cymunedol wedi darparu gofal cathetr priodol ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r ysbyty ar 11 Ebrill 2020.
Mewn ymateb i ymchwiliad yr Ombwdsmon, cydnabu’r Bwrdd Iechyd fod nifer o fethiannau wedi digwydd yn achos y gofal cathetr a roddwyd i Mr B. Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth oedd ar gael, gan gynnwys cyngor clinigol, cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd i gynnig setlo’r gŵyn.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gymryd nifer o gamau, gan gynnwys ymddiheuro i Mr B am y methiannau a ganfuwyd yn achos y gofal cathetr a chynnig talu £500 iddo am yr anghyfforddusrwydd a’r trallod y gellid bod wedi’u hosgoi. Cytunodd hefyd i atgoffa’r holl nyrsys ardal am ddisgwyliadau’r gwasanaeth i sicrhau na fydd methiannau tebyg yn digwydd eto.
Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon, ar ôl ymgynghori â Mr B a’i wraig, ei bod yn briodol i setlo’r gŵyn drwy gymryd y camau y cytunwyd arnynt gan ei bod yn annhebygol y byddai parhau â’r ymchwiliad yn cyflawni dim arall.