24/06/2021
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Datrys yn gynnar
202101445
Datrys yn gynnar
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cwynodd Mrs X nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’w chŵyn a gyflwynwyd iddo ym mis Rhagfyr 2020, er bod pum llythyr ymateb dros dro wedi’u cyhoeddi.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus gyda’r diffyg ymateb. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi ymateb ysgrifenedig llawn i Mrs X a fyddai’n rhoi sylw i’w phryderon, yn ymddiheuro am yr oedi cyn ymateb ac yn rhoi sicrwydd bod y materion a godwyd wedi cael sylw.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol i’r gŵyn.