03/11/2023
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202200708
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth Gynaecoleg a ddarparwyd iddi gan y Bwrdd Iechyd. Yn benodol, holodd a gafodd y llwybr diagnostig ar gyfer endometriosis ei ddilyn yn briodol, ac a gafodd y ddyfais yn ei groth (“coil”) ei thynnu a’i chofnodi’n briodol, ac yn unol â chanllawiau perthnasol. Cwynodd hefyd am sut yr ymdriniwyd â’r pryderon a leisiodd tra oedd hi’n dal yn yr ysbyty.
Roedd y dystiolaeth yn dangos bod y llwybr diagnostig clinigol priodol wedi’i ddilyn felly ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r elfen hon o’r gŵyn. Nid oedd yr Ombwdsmon yn gallu dod i benderfyniad pendant ynghylch caniatâd Ms A i dynnu’r coil. Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad y gellid bod wedi gwella’r dogfennau yn ymwneud â’r drafodaeth hon, a bod elfennau o’r ymateb i’r gŵyn a oedd yn mynd i’r afael â’r weithdrefn yn anghywir. Felly cafodd yr elfen hon o’r gŵyn ei chadarnhau. Canfu’r ymchwiliad, er bod pryderon Ms A wedi cael eu trafod yn ystod ei harhosiad yn yr ysbyty, o ystyried difrifoldeb ei chŵyn, gellid bod wedi gwneud hyn yn gynharach. Byddai hefyd wedi bod yn fuddiol ei chyfeirio at y Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS), neu roi cyngor iddi ar sut i wneud cwyn ffurfiol. Felly cadarnhawyd y rhan hon o’r gŵyn yn rhannol.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Ms A am y methiannau a nodwyd a chynnig taliad o £500 iddi i gydnabod y methiannau mewn perthynas â chofnodi caniatâd a’r ffordd yr ymdriniodd â’i chŵyn. Argymhellodd hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd gadarnhau bod y Gynaecolegydd dan sylw wedi trafod yr achos hwn yn ei arfarniad nesaf. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i rannu canfyddiadau ymchwiliad yr Ombwdsmon mewn fforwm Oncoleg Gynaecolegol priodol i feddygon ymgynghorol er mwyn sicrhau dysgu ehangach o’r gŵyn, yn benodol y gofynion i gadw cofnodion ynghylch caniatâd a dyletswydd i ddarparu gwybodaeth gywir mewn ymatebion i gwynion. Argymhellodd ymhellach y dylai’r Bwrdd Iechyd wneud yn siŵr fod gwybodaeth ar gael ar bob ward am y cymorth ychwanegol sydd ar gael i gleifion sy’n codi pryder a allai fod yn ddifrifol, fel atgyfeirio at PALS, a sut mae gwneud cwyn ffurfiol, ac atgoffa staff o’u dyletswydd i dynnu sylw cleifion a allai elwa ar gymorth ychwanegol at y dewisiadau hyn.