Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dyddiad yr Adroddiad

07/11/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202304642

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Cwynodd Miss X fod y Bwrdd Iechyd wedi methu gweithredu pan oedd, yn ystod ei beichiogrwydd, wedi sôn wrtho am hanes teuluol o hemoffilia. Dywedodd fod hyn wedi arwain at golli cyfle i gael diagnosis cynenedigol o hemoffilia a rheolaeth arbenigol yn dilyn hynny, a oedd wedi ei rhoi hi a’i phlentyn mewn perygl.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi cynnal ymchwiliad i ofal Miss X, nad oedd wedi cael ymateb ffurfiol i’w chŵyn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad a gofynnodd am gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymateb yn ffurfiol i gŵyn Miss X o fewn 30 diwrnod.

Yn ôl